Hanes Project Mozilla
Cafodd project Mozilla ei greu yn 1998 gyda ryddhau cod ffynhonnell casgliad rhaglenni porwr Netscape. Y bwriad oedd harneisio grym creadigol miloedd o raglenwyr ar y Rhyngrwyd a chreu lefelau uchel o arloesedd ym myd porwyr. O fewn y flwyddyn gyntaf, roedd aelodau cymunedol newydd o bob rhan o'r byd wedi cyfrannu swyddogaethau newydd, gwella'r nodweddion presennol ac wedi cymryd rhan yn rheoli a chynllunio'r project ei hun.
Drwy greu cymuned agored, roedd project Mozilla project wedi dod yn fwy nag unrhyw un cwmni. Roedd aelodau cymunedol wedi ymuno yn y gwaith ac ymestyn hyd a lled amcan gwreiddiol y project yn lle gweithio ar borwr nesaf Netscape, dechreuwyd creu amrywiaeth o borwyr, offer datblygiadol ac ystod o brojectau eraill. Cyfrannodd pobl i Mozilla mewn ffyrdd gwahanol ond roedd pawb yn frwdfrydig am greu meddalwedd rhydd fyddai'n caniatáu i bobl gael dewis o'u profiad ar y we.
Ar ôl ychydig o flynyddoedd o ddatblygiad, cafodd Mozilla 1.0 ei ryddhau yn 2002. Roedd y fersiwn yma'n cynnwys lawer o welliannau i'r porwr y rhaglen e-bost a rhaglenni eraill o fewn y casgliad, ond doedd dim llawer y ei ddefnyddio. Erbyn 2002, roedd dros 90% o ddefnyddwyr y Rhyngrwyd yn defnyddio Internet Explorer. Doedd dim llawer wedi sylwi ar y pryd ond ryddhawyd y fersiwn cyntaf o Phoenix (Firefox yn ddiweddarach) gan aelodau cymuned Mozilla gyda, nod o ddarparu'r profiad pori gorau posib i'r nifer mwyaf o bobl.
Yn 2003 creodd project Mozilla y Mozilla Foundation, corff nid-er-elw annibynnol yn cael ei gynnal gan gyfranwyr unigol a nifer o gwmnïau. Parhaodd y Mozilla Foundation y gwaith o gynnal y gwaith o ddydd i ddydd a hefyd y gwaith o hyrwyddo bod yn agored, dyfeisgar a chyfle ar y we. Gwnaeth hynn drwy ryddhau meddalwedd fel Firefox a Thunderbird ac ehangu i feysydd newydd fel darparu grantiau i gefnogi gwelliannau mynediad i'r we.
Cafodd Firefox 1.0 ei ryddhau yn 2004 a daeth yn llwyddiant mawr - mewn llai na blwyddyn cafodd ei lwytho i lawr dros 100 miliwn gwaith. Mae fersiynau newydd o Firefox wedi cael eu rhyddhau yn rheolaidd ers hynny ac mae'n dal i greu cynnwrf. Mae poblogrwydd Firefox wedi dod â dewis nôl i ddefnyddwyr. Mae ailgychwyn cystadleuaeth wedi cynyddu arloesedd a gwella'r rhyngrwyd i bawb.
Yn 2013, caf0dd Mozilla Firefox OS ei ryddhau i amlygu grym llawn y We ar ffonau clyfar ac unwaith eto gynnig rheolaeth a dewis i genhedlaeth newydd o bobl sy'n dod ar-lein.
Hefyd, dathlodd Mozilla ei 15fed pen-blwydd yn 2013. Mae'r gymuned wedi dangos fod cwmnïau yn gallu manteisio dwy gydweithredu mewn projectau cod agored a bod cynnyrch defnyddwyr rhagorol yn gallu cael eu cynhyrchu fel meddalwedd cod agored. Mae mwy o bobl nag erioed yn defnyddio'r Rhyngrwyd ac yn ei brofi yn eu hiaith eu hunain. Mae cwmni cynaladwy wedi ei greu sy'n defnyddio peirianwaith y farchnad i gynnal ymgyrch mantais gyhoeddus ac mae'r model wedi ei ddefnyddio gan eraill i greu cyrff agored, tryloyw a chydweithredol mewn ystod eang o feysydd.
Mae'r dyfodol yn llawn her a chyfle fel y rhai yn ein gorffennol. Does dim sicrwydd y bydd rhyngrwyd yn para'n agored, yn hwyl nac yn ddiogel. Bydd Mozilla'n parhau i ddarparu cyfle i bobl i fynegi eu hunan a siapio eu bywyd ar-lein. Wrth gwrs, nid ni yw'r unig rai sy'n gwneud hyn. Mae cymuned Mozilla, ynghyd â phrojectau cod agored arall a chyrff mantais cyhoeddus, yn bodoli dim ond oherwydd y bobl sy'n ymwneud â gwireddu ein hamcanion ar y cyd. Os hoffech chi ymuno â'n hymgyrch, ymunwch.
Am rhagor o wybodaeth am hanes Mozilla, gwelwch y canlynol:
- Nodau Tudalen Mozilla
- Llinell Amser Project Mozilla
- Banc Cof Digidol Mozilla
- Hanes Firefox a Phosteri Mozilla (ar gael yn Saesneg a Japanëeg)