Dewiswch pa Firefox Browser i'w lwytho i lawr yn eich iaith

Mae pawb yn haeddu mynediad i'r rhyngrwyd - dylai'ch iaith chi ddim bod yn rhwystr. Dyna pam - gyda chymorth gwirfoddolwyr ymroddedig ledled y byd - rydym yn darparu Firefox mewn mwy na 90 o ieithoedd.

1. Porwr: Firefox Developer Edition Dewiswch gynnyrch gwahanol

2. Platfform: Dewiswch o'r rhestr isod Derbyn cymorth

Rhagor am osodwyr

  • Gosodwyr 64-did

    Dewiswch osodwr 64-did ar gyfer cyfrifiaduron â phrosesydd 64-did, sy'n eu galluogi i ddyrannu mwy o RAM i raglenni unigol - yn arbennig o bwysig ar gyfer gemau a rhaglenni heriol eraill.

  • Gosodwyr 32-did

    Dewiswch osodwr 32-did ar gyfer cyfrifiaduron gyda phroseswyr 32-did - neu ar gyfer cyfrifiaduron hŷn neu lai pwerus. Os nad ydych yn siŵr a ydych am ddewis gosodwr 64-did neu 32-did, rydym yn argymell eich bod yn mynd am y 32-did.

  • Gosodwyr MSI

    Gosodwyr Windows ar gyfer TG corfforaethol sy'n symleiddio'r ffurfweddiad, darpariaeth a rheoli'r Firefox Browser.

  • Gosodwyr ARM64/AArch64

    Gosodwyr ARM64/AArch64 wedi'u optimeiddio ar gyfer cyfrifiaduron Windows a Linux.

  • Microsoft Store

    Bydd y dewis hwn yn agor tudalen cynnyrch Firefox ym mhorth gwe Microsoft Store. Os ydych yn rhedeg Windows 10 neu Windows 11, bydd gennych y dewis i agor y Microsoft Store o'r dudalen hon a gosod Firefox. Os byddwch yn gosod o'r Microsoft Store, bydd diweddariadau i Firefox hefyd yn cael eu trin gan y Microsoft Store. Mae mân wahaniaethau yn ymddygiadau a galluoedd Firefox wrth ei osod o'r Microsoft Store, ond nid yw'r gwahaniaethau hyn yn amlwg i'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr.

3. Iaith: Dewiswch blatfform i barhau

4. Llwytho i lawr: Dewiswch blatfform i barhau