Rhwystrydd hysbysebion - arf dirgel yn erbyn hysbysebion blin.
Lot o hysbysebion, llai o amynedd… Mae'n bryd rhoi stop ar y gwallgofrwydd.
Mae'r person cyffredin yn gweld 4,000 o hysbysebion y dydd ar gyfartaledd. Os ydych chi'n meddwl bod hynny'n ormod, y rhwystrydd hysbysebion yw'ch ffrind gorau newydd.
Mae rhwystrydd hysbysebion yn ddarn o feddalwedd y mae modd ei ddefnyddio i atal hysbysebion, ac maen nhw'n gweithio mewn dwy ffordd. Y ffordd gyntaf yw pan fydd rhwystrydd hysbysebion yn rhwystro'r signal gan weinyddwr yr hysbysebwr, felly nid yw'r hysbyseb byth yn ymddangos ar eich tudalen. Ffordd arall mae'r rhwystrydd hysbysebion yn gweithio yw drwy rwystro rhannau o wefan a allai fod yn hysbysebion.
Gall yr hysbysebion hyn fod yn hysbysebion fideo swnllyd, hysbysebion sy'n eich dilyn o gwmpas y we, tracwyr, cwcis trydydd parti, a mwy. I ddefnyddio rhwystrydd hysbysebion, gallwch chwilio am rwystrydd hysbysebion sydd ar gael yn eich porwr. Mae gan Firefox, er enghraifft, y rhestr hon o ychwanegion rheolyddion hysbysebion cymeradwy. Cliciwch ar y rhestr hon (neu reolyddion hysbysebion cymeradwy ar gyfer eich porwr) a gweld pa un sy'n gweddu i'ch anghenion.
Dod o hyd i'r rheolydd hysbysebion cywir i chi
Mae yna ugeiniau o rwystrwyr cynnwys ar gael, ond dyma rai dewisiadau gwych wedi'u crynhoi gan Mozilla…
Yn cael ei ystyried gan lawer fel y safon aur ymhlith rhwystrwyr hysbysebion, mae uBlock Origin yn enwog am ei effeithiolrwydd. Yn hynod addasadwy, ond ac yn gweithio'n wych “allan o'r bocs.”
Mae AdGuard AdBlocker yn lleihau hysbysebu ym mhobman. Mae'n rhwystro hysbysebion ar y we, cyfryngau cymdeithasol, hyd yn oed y llamlenni annifyr hynny (er, os ydych chi eisiau atal dim ond llamlenni, mae Popup Blocker yn dda iawn).
Mae Ghostery yn ddewis gwych arall sydd nid yn unig yn rhwystro hysbysebion ond hefyd yn darparu buddion gwrth-dracio ychwanegol.
Mae'r estyniadau hyn yn gweithio'n wych ar Firefox ar gyfer y bwrdd gwaith ac Android.
Creu parth dim tracio gyda Rhwystro Cynnwys
Ar Firefox, gallwch ddefnyddio'r gosodiadau Preifatrwydd neu Rhwystro Cynnwys i gael hyd yn oed mwy o reolaeth dros tracwyr hysbysebion sy'n gweinyddu'r hysbysebion i chi.
Dewiswch eich lefel o ddiogelwch
I ddechrau, cliciwch ar y darian i'r chwith o'r bar cyfeiriad ar unrhyw dudalen we a dewis "Gosodiadau Diogelu." Bydd hyn yn agor y panel Gosodiadau Preifatrwydd a Diogelwch Firefox mewn tab newydd. Dylech weld llamlen las gyda gwahanol ddewisiadau.
Cymryd hi'n hawdd gyda'r modd Safonol
Os nad yw hysbysebion yn eich poeni ac nad ydych chi'n meddwl eich bod yn cael eich dilyn gan dracwyr a chwcis trydydd parti, yna dylai'r gosodiad Safon weithio i chi. I gael offer tracio oddi ar eich cefn yn y modd Safonol, defnyddiwch y ffenestr >Pori Preifat.
Mynd yn galed gyda'r modd Llym
Os yw gweld gormod o hysbysebion yn difa eich diwrnod, yna mae'r modd Llym yn well. Bydd y modd hwn yn rhwystro hysbyswyr a chwcis trydydd parti hysbys ym mhob ffenestr Firefox.
Modd Cyfaddasu
Mae'r gosodiadau Cyfaddas yn cynnig y dewis gorau i chi. Gallwch benderfynu beth rydych chi'n eu rhywstro, gan gynnwys tracwyr, cwcis a mwy. Os ydych chi'n caniatáu cwcis o wefan, byddwch yn awtomatig yn y modd Cyfaddas.
Cuddio'ch llwybrau, rhwystro tracwyr
Cliciwch ar y blwch Tracwyr a byddwch yn gallu rhwystro tracwyr mewn dwy ffordd. Un ffordd o rwystro tracwyr yw ei wneud pan fyddwch chi'n gweithio mewn Ffenestr Breifat. Ffordd arall o wneud hyn yw rhwystro'r tracwyr ym mhob ffenestr. Cofiwch, os ydych chi'n dewis rhwystro tracwyr bob tro, efallai na fydd rhai tudalennau'n llwytho'n gywir.
Cnoi'r cwcis
Mae gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw yn anfon cwcis. Maen nhw'n byw ar eich cyfrifiadur ac yn monitro'r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud ar wefan. Pan fydd cwmni hedfan yn codi eich cyfraddau oherwydd eich bod wedi edrych ar docynnau awyren unwaith yn barod y diwrnod hwnnw, dyna waith llaw cwci.
Yn Firefox, gallwch rwystro pob cwcis trydydd parti neu dim ond y rhai sy'n cael eu gan dracwyr. Byddwch yn ymwybodol y gall atal pob cwci dorri rhai gwefannau.
Anfon signal Dim Tracio
Os nad ydych chi am i'ch ymddygiad ar-lein gael ei ddefnyddio ar gyfer hysbysebion, gallwch anfon llythyr cwrtais at wefannau “diolch ond dim diolch” drwy dicio'r dewis Peidiwch â Thracio yn Firefox. Mae cyfranogiad yn wirfoddol, ond bydd y gwefannau sy'n cymryd rhan yn rhoi'r gorau i'ch tracio ar unwaith.
Cyflymu diolch i rwystryddion hysbysebion
Mewn rhai achosion, gall rhwystrydd hysbysebion helpu'ch porwr i fynd yn gyflymach. Pan fydd hysbyseb yn llwytho, gall arafu gwefan. Ar yr un pryd, mae'n cymryd mwy o amser i ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano os ydych chi'n rhy brysur yn cau hysbysebion.
Os hoffech chi ddysgu rhagor am rhwystro hysbysebion, mae cannoedd o estyniadau atal hysbysebion ar gael ar gyfer Firefox a phorwyr eraill. Os ydych chi am roi cynnig ar yr atalwyr hysbysebion mae Firefox yn ei ddefnyddio, cliciwch yma i lwytho i lawr porwr sy'n rhoi preifatrwydd yn gyntaf.