Rheolwr nodau tudalen
Mae nodau tudalen yn ddolenni rydych chi'n eu cadw yn eich porwr fel y gallwch chi fynd yn ôl yn gyflym ac yn hawdd i'ch hoff leoedd ar y we. Mae Firefox yn cynnwys rheolwr nod tudalen hylaw fel y gallwch drefnu, chwilio, diweddaru a chysoni'ch holl ddolenni sydd wedi'u cadw ar draws eich holl ddyfeisiau.
Trefnwch eich nodau tudalen i ffolderi chwiliadwy
Casglwch eich nodau tudalen mewn ffolderi a'u tagio gyda manylion ychwanegol. Gallwch hefyd ddidoli eich nodau tudalen i ddod o hyd i'r rhai sydd eu hangen arnoch chi'n gyflym.
Mewnforio nodau tudalen yn hawdd
Gallwch fewnforio eich nodau tudalen o Chrome, Safari neu Edge gyda dewin mewnforio Firefox. Cliciwch ar Nodau Tudalen > Rheoli nodau tudalen ac yna dewiswch “Mewnforio a Chadw”.
Bar offer nodau tudalen
Sicrhewch fynediad cyflym i'ch hoff nodau tudalen yn y ddewislen ar frig Firefox neu piniwch nhw i'ch bar offer.