Mae Firefox yn mynd yn gynt ac yn gynt
Sut mae cyflymder porwr yn cael ei fesur?
Y meincnod perfformiad porwr sy'n cael ei ddefnyddio fwyaf i fesur ymatebolrwydd rhaglenni gwe yn Speedometer. Er bod meincnodau porwr eraill yn bodoli, Speedometer 3 yw'r safon newydd ar gyfer sut rydym yn mesur cyflymder eich profiad pori. Mae'r profion diweddaraf yn adlewyrchu gwe heddiw yn well - gan weithio gyda siartiau sy'n gyfoethog yn weledol, golygu testun, rhyngweithio â thudalennau gwe cymhleth a thrwm fel gwefannau newyddion - ac mae'n mesur darlun llawn o berfformiad y porwr.
Y meincnod Speedomedr 3 newydd yw'r meincnod porwr mawr cyntaf a ddatblygwyd erioed trwy gydweithrediad sy'n cael ei gefnogi gan bob porwr mawr, sydd wedi'i gynllunio i fod o fudd i'r we gyfan.
Yn gyflymach bob dydd
Mae Firefox yn cael ei bweru gan y peiriantGecko sydd o safon fyd-eang, gyda steilio a gosodiad tudalen rhyfeddol o gyflym, nodweddion JavaScript modern a churiad di-ddiwedd o welliannau perfformiad newydd i gadw ein defnyddwyr yn hapus a gwthio'r llwyfan gwe cyfan yn ei flaen.
Roedd yn rhaid i bob porwr wneud gwelliannau er mwyn perfformio'n dda ar y profion Speedometer 3 newydd. Mae Firefox yn arbennig wedi cymryd camau breision, yn dod yn gynt o lawer i'n defnyddwyr o ganlyniad uniongyrchol i'r gwaith hwn. Mae Firefox yn gyflymach nag erioed o'r blaen, gyda chyflymder y gallwch ei deimlo, gan gynnwys llwytho tudalennau cyflymach a rhyngweithiadau llyfnach.
Tuag at we cyflymach
Mae Mozilla wedi ymrwymo i barhau i wella ein porwr ein hunain yn ogystal â'r we gyfan. Dyna pam y gwnaethom fuddsoddi yn y cydweithrediad i ddatblygu Speedometer 3 sydd, yn ei dro, wedi gwella perfformiad pob porwr. Felly pa bynnag borwr rydych yn ei ddewis, mae Mozilla am iddo fod yn gyflym.