Golygu PDFau am ddim gyda Golygydd PDF Firefox
Os oes angen ychwanegu stwff at ddogfen PDF, nawr gallwch wneud hynny ar-lein gyda Firefox. Agorwch y PDF yn Firefox a chliciwch ar y botymau Testun neu Luniadu yn y gornel dde uchaf i wneud newidiadau i'ch dogfen. Llwythwch y ffeil i'w chadw gyda'ch newidiadau.
Llenwch ffurflenni ar-lein heb eu hargraffu a'u sganio
Rydyn ni i gyd wedi wynebu hyn: mae angen i chi lenwi ffurflen sy'n PDF, ond nid oes modd ei golygu. Yn y gorffennol, eich unig dewis oedd ei argraffu ar goeden farw, ychwanegu pethau gydag inc, ac yna ei sganio yn ôl i'ch cyfrifiadur.
Dim mwy! Nawr, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw golygu'r PDF ar-lein gyda Firefox, ei gadw, a'i e-bostio o'ch cyfrifiadur.
Ychwanegu testun
Agorwch y PDF yn Firefox. Cliciwch y botwm Testun i ddewis lliw a maint testun cyn dewis ble ar y ddogfen yr hoffech ychwanegu testun. Mae mor hawdd â hynny!
Ychwanegu lluniadau (neu'ch llofnod)
Agorwch y PDF yn Firefox. Cliciwch yr eicon Lluniadu i ddewis lliw, trwch ac didreiddedd cyn gallu tynnu llun ar y ddogfen. Mae'n debyg na fydd yn fwy blêr na'ch llofnod arferol!
Ychwanegu delwedd gyda thestun amgen
Agorwch y PDF yn Firefox. Cliciwch ar yr eicon delwedd, a fydd wedyn yn eich annog i lwytho delwedd. Newidiwch faint a lleoliad eich delwedd yn ôl yr angen. Cliciwch ar y botwm “+ testun Amgen” ar y ddelwedd i ychwanegu disgrifiad o'r llun i wneud eich PDF yn fwy hygyrch.
Amlygu testun
Agorwch y PDF yn Firefox. Dewiswch y testun rydych chi am ei amlygu, yna cliciwch ar yr eicon amlygu sy'n ymddangos o dan eich dewis neu cliciwch ar y dde i ddod o hyd i'r dewis amlygu yn y ddewislen cyd-destun. Cliciwch ar yr eicon ar y dde uchaf i amlygu adrannau â llaw o'r PDF.